Byw gydag iselder ôl-enedigol gan aelod o PCS

19 Feb 2017
 

Mae dychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnod absenoldeb mamolaeth yn gallu bod yn broses gymhleth.  Mae ceisio cael cydbwysedd rhwng gofal plant, teithio, arian, dyddiau gwaith, gwyliau a’r holl ‘bleserau bychain’ eraill yn gallu achosi llawer o straen.  Pan fyddwch yn ychwanegu iselder ôl-enedigol i’r sefyllfa gymhleth honno, mae dychwelyd i’r gwaith yn gyfnod tywyll ac anodd iawn.

Mae yna nifer o resymau pam y gallai rhywun dderbyn diagnosis o iselder ôl-enedigol, i rai mae’n digwydd o fewn yr ychydig wythnosau cyntaf, i eraill gall ddigwydd fwy na blwyddyn yn ddiweddarach.  Fel gyda phob math o gyflyrau iechyd meddwl, bydd y symptomau yn amrywio o deimladau o syrthni a bod yn isel iawn, i seicosis a meddwl am hunanladdiad.

Yn fy achos i, fe gymerodd 18 mis cyn i mi gael diagnosis.  Dychwelais i’r gwaith ar ôl 10 mis i ffwrdd ac roeddwn yn teimlo gwacter yr oeddwn i’n tybio fy mod yn ei brofi am fy mod yn gadael fy mhlentyn ar ôl.  Datblygodd y teimladau i fod yn deimladau mwy tywyll a thrwm.  Roeddwn yn teimlo’n swrth ac yn bell i ffwrdd, gan dynnu fy hun o sefyllfaoedd cymdeithasol a diffyg awydd cymryd rhan mewn unrhyw beth.  Byddwn yn crio ar y pethau lleiaf a byddwn yn hollol afresymol ac anwadal.  Ar ôl tri mis yn y gwaith ac ar ôl siarad gydag aelodau agos fy nheulu, roeddwn yn dechrau dod yn ymwybodol nad oedd yr hyn yr oeddwn yn ei deimlo yn ganlyniad dychwelyd i’r gwaith, ond mewn gwirionedd roedd yn salwch.

Ar ôl ystyried y sefyllfa’n fwy manwl, sylweddolais fy mod wedi bod yn profi’r teimladau hyn ers genedigaeth fy merch.  Gallwn gyfaddef fy mod wedi profi cyfnodau pan nad oeddwn eisiau fy mhlentyn.  Roeddwn eisiau i rywun fynd â hi neu roeddwn yn cael breuddwydion lle nad oedd wedi’i geni a byddwn yn teimlo rhyddhad.  Sylweddolais nad oeddwn wedi bondio gyda hi yn y ffordd yr oeddwn yn teimlo y dylai mam wneud ac y byddai’n well ei byd hebdda i.  Nid oeddwn yn teimlo’r llawenydd a’r gorfoledd y mae’r rhan fwyaf o ferched yn ei ddisgrifio ar ôl geni eu plentyn, ni wnaeth hyn ddigwydd i mi.  Nid oeddwn yn fam berffaith.

Fy ngham cyntaf tuag at adferiad oedd apwyntiad gyda fy meddyg teulu.  Eistedd yn yr ystafell aros oedd un o’r pethau gwaethaf i mi ei brofi erioed.  Roedd yn teimlo fy mod yn aros i gael gwybod fy mod yn ‘dychmygu’r peth’ neu’n bod yn ‘rhy sensitif’ a fy mod yn gwastraffu eu hamser.  Ar ôl beth oedd yn ymddangos fel sgwrs hir a blinedig iawn, cefais feddyginiaeth gwrthiselder a chefais fy nghyfeirio at gwnselydd a therapi grŵp.

Ar y pwynt hwn roedd fy nheimladau o euogrwydd a phryder yn llethol.  Ni allwn adael y tŷ ac ni allwn gysgu na bwyta’n iawn.  Arweiniodd hyn at sbardunau salwch yn y gwaith.  Cafodd fy nghofnod absenoldebau ei adolygu a chefais fy rhoi o dan drefniadau monitro anffurfiol.  Ond gyda help a chymorth fy rheolwr cefais fy nghyfeirio at wasanaeth iechyd galwedigaethol a chefais sgwrs gyda meddyg cefnogol iawn.  Gallai addasu fy mhwyntiau sbarduno i fy nghynorthwyo wrth i mi brofi’r ychydig fisoedd cyntaf ac awgrymodd y dylwn gael gliniadur er mwyn gallu gweithio o adref i leddfu fy mhryder.

Trwy gydol y broses hon, roeddwn yn teimlo fy mod wedi cael cefnogaeth lwyr fy nghynrychiolydd undeb, a fu’n mynychu pob un o’m cyfarfodydd gyda fy rheolwyr a’r adran adnoddau dynol.  Dechreuais deimlo’n fwy cyfforddus yn mynd i’r gwaith ac roeddwn yn teimlo’n falch bod gennyf strwythur cymorth gwych ar waith.

Gyda chymorth fy nheulu, gwaith, fy meddyg teulu a’r cwnselydd, rwyf ar y ffordd araf tuag at adferiad ond mae ergydion anochel wedi bod ar y ffordd.  Canfyddais mai gallu gweithio’n hyblyg oedd y ffordd orau o bell ffordd i mi ddychwelyd i’r gwaith mewn camau ac roedd yn darparu ‘blanced ddiogelwch’ angenrheidiol i mi.

Mae’r elusen iechyd meddwl Mind yn datgan y bydd “tua un o bob pum merch yn profi problem iechyd meddwl yn ystod ei beichiogrwydd neu yn y flwyddyn ar ôl genedigaeth”.  Os bydd 100 o ferched yn dychwelyd i’r gwaith mewn blwyddyn, yna gallai 20 ohonynt fod yn profi symptomau iselder ôl-enedigol.  Mae’n bwysig eu bod yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth wrth ddychwelyd i’r gwaith.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â blwch post PSCCardiffsupport neu ewch i’r gwefannau canlynol:
http://www.pandasfoundation.org.uk/
https://www.facebook.com/PANDASFoundation/
http://www.mind.org.uk/

Aelod o PCS

Share PCS:

Visit PCS social sites:

FacebookTwitterYouTubeFlickrRSS