Rhoi Partneriaeth ar Waith

22 Feb 2017
 

Y llynedd, cyflwynodd llywodraeth y DU ddeddfwriaeth a oedd yn ceisio llesteirio a chyfyngu undebau llafur ymhellach.  Daeth Deddf Undebau Llafur 2016 i rym ar 4 Mai, 2016.  Fodd bynnag, diolch i ymgyrchu a lobïo effeithiol iawn gan PC ac undebau llafur eraill, mae’n fersiwn wedi’i wanhau o’r hyn a gynigiwyd yn wreiddiol.  Er hynny, mae’n parhau i gynrychioli’r ymosodiad mwyaf difrifol ar undebau a brofwyd mewn cenhedlaeth.

Mae’n cyflwyno nifer o fesurau newydd, yn cynnwys:

  • Rheolau diwygiedig ar weithredu diwydiannol, yn cynnwys trothwyon statudol ar gyfer pleidleisiau
  • Cyfyngiadau pellach ar bicedu
  • Newidiadau niweidiol i amser cyfleuster undebau a threfniadau didynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres
  • Pwerau ehangach i’r Swyddog Ardystio.

Ym mis Ionawr eleni, cyflwynwyd bil yn y Senedd sy’n ceisio datgymhwyso rhannau o’r Ddeddf Undebau Llafur mewn cysylltiad â’r gwasanaethau cyhoeddus y mae’r cyfrifoldeb amdanynt wedi’i ddatganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.  Os caiff y bil ei basio, bydd yn adlewyrchu’r ffordd wahanol iawn y mae cysylltiadau diwydiannol yn cael eu gweld a’u cynnal yma yng Nghymru.

Cyn cyflwyno’r bil, dywedodd Mark Drakeford (ysgrifennydd y cabinet dros gyllid a llywodraeth leol):

“Rydym wedi dweud o’r dechrau nad oedd angen y Ddeddf Undebau Llafur ac y byddai’n arwain at berthnasau mwy gwrthdrawiadol rhwng cyflogwyr a gweithwyr; yn tanseilio yn hytrach na chynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus a’r economi.

Mae partneriaeth gymdeithasol yn seiliedig ar barch at waith undebau llafur a hawliau eu haelodau.  Yng Nghymru, mae cyflogwyr a’r mudiad undebau llafur yn cydweithio mewn ffordd adeiladol.  Nid ydym yn barod i ganiatáu i’r Ddeddf Undebau Llafur danseilio’r ymagwedd yr ydym wedi’i meithrin yr ochr hon i’r ffin.

Mae’r ddeddf nid yn unig yn niweidiol ac yn peri rhaniadau, mae hefyd yn ymyrryd â pholisi datganoledig a’r pwerau sydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae adrannau allweddol ar drothwyon pleidleisiau, amser cyfleuster a threfniadau didynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres yn ei gwneud yn anoddach i gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru, gan newid cydbwysedd y berthynas rhwng cyflogwyr ac undebau.

Mae’r bil yn ceisio sicrhau nad yw darpariaethau niweidiol y Ddeddf yn berthnasol i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.”

Wrth groesawu’r datblygiad, dywedodd, Mark Serwotka, ysgrifennydd cyffredinol PCS:

“Rydym yn croesawu’r datblygiad hwn ac rydym yn ei gefnogi’n llwyr, yn y gobaith y bydd yn darparu diogelwch ystyrlon rhag deddfwriaeth ddialgar a diangen y Torïaid.  Os oedd llywodraeth y DU o ddifrif ynghylch helpu’r mwyafrif yn hytrach na’r lleiafrif breintiedig, byddai’n atgyfnerthu undebau llafur i beidio eu tanseilio.”

Mae’r bil wedi’i drosglwyddo i’r pwyllgor cydraddoldeb, llywodraeth leol a chymunedau ac mae yng ngham 1af ei hynt yn awr drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae gwybodaeth bellach ar gael yma:  

http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistory

http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgConsultationDisplay

Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddar i aelodau ar gynnydd y bil.

HOWIE OLIVER
Is-lywydd y grŵp

Share PCS:

Visit PCS social sites:

FacebookTwitterYouTubeFlickrRSS