Atgofion o’r Undeb

Ymunais â’r gwasanaeth sifil fel cynorthwyydd clerigol ym mis Awst 1967, gyda’r Gofrestr Morwyr a Morgludiant yn Llandaf (sydd bellach yn ystâd o dai) ac ymunais â Chymdeithas Glerigol y Gwasanaeth Sifil (CSCA) yn 1969. Gofynnwyd i mi ar unwaith i helpu’r pwyllgor lleol mewn amryw o rolau. Yn 1970 cefais fy nyrchafu’n swyddog clerigol a fy symud i swyddfeydd y bwrdd masnach yng Ngabalfa lle bûm yn brysur â gweithgarwch yr undeb, y CPSA bryd hynny. Yng nghanol y 70au deuthum yn rhan o’r Swyddfa Gymreig. Rwyf yn cofio trip i Lundain gyda thîm a oedd yn cael ei arwain gan reolwr y swyddfa, Pam Denning, ar gyfer cyflwyniad ar weithio cynllun agored ac i weld y cynlluniau a’r model ar gyfer adeilad newydd y Goron ym Mharc Cathays.

Yn 1976, symudais i’r isadran trafnidiaeth a phriffyrdd yn Adeiladau Graham, ar ôl cael fy nyrchafu’n swyddog gweithredol, lle’r ymunais â Chymdeithas y Gweision Sifil, y PCS ymhen amser. Roeddwn yn parhau’n weithredol ac yn y diwedd cefais fy newis yn Gadeirydd cangen y Swyddfa Gymreig, gan newid i fod yn is-gadeirydd bob yn ail am nifer o flynyddoedd.

Roeddwn hefyd wedi bod yn rhan o nifer o streiciau (dros gyflog fel arfer), yn enwedig yn y 70au hwyr a’r 80au; blynyddoedd Thatcher. Rwyf wedi treulio dyddiau lawer ar linellau piced, yn y glaw fel arfer, yn Llanisien a Pharc Cathays. Roedd lefel y bleidlais yn eithaf uchel yn y dyddiau hynny (neu roedd yn ymddangos felly) o’i gymharu â heddiw. Yn y rhan fwyaf o achosion roedd pobl yn rhesymol, yn cymryd amser i drafod yn bwyllog y gwahanol safbwyntiau perthnasol. Fodd bynnag, roedd teimladau’n poethi weithiau, roedd picedwyr yn cael eu cyhuddo o fod yn rhy ymosodol ac roedd y rhai a oedd yn croesi’r llinellau'r un mor benderfynol ac ar fwy nag un achlysur cafodd ceir eu gyrru at bicedwyr.

Rhai o’r materion y bûm yn gysylltiedig â hwy oedd oriau hyblyg, gwahardd ysmygu (ymddiheuriadau os oeddech chi’n un o’r rhai sydd wedi sefyll allan ym mhob tywydd) ac wrth gwrs negodiadau cyflog, gyda rhai’n fwy llwyddiannus na’i gilydd.

Yn y 70au, yr 80au a’r 90au parhaodd y Swyddfa Gymreig i dyfu. Pan ddaeth yn gyfrifol am amaethyddiaeth roedd gennym swyddfa ym mhob rhan o Gymru. O ganlyniad, roeddem yn cynnal cyfarfodydd ledled Cymru, gan deithio i Ruthun, Llandrindod, Caernarfon, Caerfyrddin ac Aberystwyth. Roedd amodau’r gwasanaeth yn wahanol mewn sawl ffordd i’r Swyddfa Gymreig a’n prif dasg oedd sicrhau bod hawliau’n cael eu diogelu. Roeddem oddi cartref am ddeuddydd fel arfer; roedd boreau’r ail ddiwrnod yn gallu bod yn amser digon anodd ar ôl bod yn gorwneud pethau’r noson flaenorol.

Wedyn roedd y cynadleddau cenedlaethol, a hynny fel arfer yn Blackpool neu Bournemouth, cymysgedd cyffrous o bolisi a gwleidyddiaeth, domestig a rhyngwladol. Roedd llawer o siaradwyr a oedd yn rhannu gwybodaeth â ni ar y brwydrau yn erbyn apartheid yn Ne Affrica, er enghraifft, a sut i gefnogi’r rhai a oedd yn cael eu heffeithio gan doriadau staff a oedd yn cael eu trin yn annheg. Roeddwn yn cyrraedd adref wedi ymlâdd o’r digwyddiadau hyn ar ôl digwyddiadau’r diwrnod ac ychydig gormod o “luniaeth” fin nos.

Rhoddais y gorau i weithredu ddiwedd y 90au ac ôl mwyhau fy amser yng nghanol y berw. Mi fyddwn yn bendant yn argymell bod unrhyw un sy’n ystyried gwneud cyfraniad yn mynd ati i wneud hynny, mae’n rhoi llawer o foddhad, ac mi gefais hefyd lawer o bleser yn ei sgil.

Author: 
Tony Joss

Share PCS:

Visit PCS social sites:

FacebookTwitterYouTubeFlickr