Pleidlais Ie ond dim streic

Sicrhaodd PCS ei bleidlais uchaf erioed mewn pleidlais bost gydag 85% yn pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol. Fodd bynnag, nid oedd pleidlais gan 41% o’r aelodaeth yn ddigon i ganiatáu i’r undeb fwrw ymlaen ag unrhyw weithredu diwydiannol.

Mae hyn yn ganlyniad i Ddeddf yr Undebau Llafur 2016, sy’n cadarnhau “y gallu i fynd ar streic gan leihau aflonyddwch i filiynau o bobl”, trwy sicrhau “nad oes gweithredu diwydiannol yn mynd ymlaen oni bai bod 50% wedi pleidleisio.

Felly, a yw trothwy o 50% yn deg? A yw’r ddeddf yn caniatáu i undebau i gynyddu’r nifer sy’n pleidleisio os yw mor hanfodol i ddemocratiaeth?  

Nid yw’n syndod o gwbl mai na yw’r ateb i’r ddau gwestiwn.

Y peth cyntaf i’w nodi yw nifer yr agweddau ar ddemocratiaeth yn y DU lle nad oes angen pleidlais o 50%, neu sydd heb unrhyw drothwy o gwbl.  Gallwch fod yn AS, AC, ASE, cynghorydd lleol neu gomisiynydd heddlu ar bleidlais llawer is, ac nid oes dim gofyniad ar unrhyw un o’r etholiadau hyn sy’n debyg i’r un a roddir ar undebau llafur. Roedd y bleidlais yn etholiadau diwethaf y Cynulliad yn 45%; ac yn etholiadau lleol Lloegr yn 2018 amcangyfrifodd y BBC fod y bleidlais yn 36% ar sail arolwg o 800 o wardiau, ac yn yr etholiadau Ewropeaidd diwethaf roedd y bleidlais yn is fyth, sef 34.19%. Bydd llawer hefyd yn cofio’r bleidlais mewn un ward yng Nghasnewydd i ethol comisiynydd heddlu lle nad oedd neb wedi pleidleisio; roedd y bleidlais isaf yn yr etholiadau hynny’n ddim ond 17%.  

Cwestiwn arall holl bwysig yw; os yw’r llywodraeth Geidwadol yn credu bod ein hetholiadau’n cael eu prawfesur i sicrhau eu bod yn ddemocrataidd, a ydynt yn caniatáu i ni gynyddu ein pleidlais yn gyfreithiol? Er bod yr etholiadau cyffredinol yn y DU yn denu pleidlais iach o 65% neu fwy, mae hynny’n cael ei ategu gan bleidlais bost gref (tua 15% – 7 miliwn o bleidleisiau yn etholiad cyffredinol 2010). Mae hyn yn tanlinellu’r ffaith bod pob etholiad ystyrlon yn y DU yn caniatáu ffordd arall o bleidleisio i gynyddu’r niferoedd sy’n pleidleisio, gyda’r bleidlais draddodiadol yn y blwch pleidleisio’n cael ei ategu gan bleidleisiau post, ond eto nid yw’r ddeddf yn caniatáu proses debyg ar gyfer pleidleisiau undebau.

Mae lobio caled wedi sicrhau ambell fuddugoliaeth, gan gynnwys gofyniad bod y llywodraeth yn cynnal adolygiad annibynnol ar bleidleisio electronig mewn pleidleisiau dros streic – ond nid oes gofyniad cyfreithiol i gyflwyno hyn.

Rydym yn ffodus yma yng Nghymru, er na allai hynny ein helpu yn y bleidlais DU gyfan hon, bod y weinyddiaeth yma o’r farn bod y ddeddf yn wrthun ac nad yw’n helpu cysylltiadau diwydiannol da ac mae wedi ymdrechu i’w gwrthwynebu gyda’r bil undebau llafur – “Mae Llywodraeth Cymru o’r farn y bydd Deddf y DU, pan ddaw i rym, yn rhannu cymdeithas; yn arwain at fwy o wrthdaro yn y berthynas rhwng cyflogwyr a gweithwyr, ac y bydd yn tanseilio’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus”.

Bydd y PCS a’r TUC wrth gwrs yn cyfrannu at unrhyw ymgynghoriad ar y posibilrwydd o ganiatáu pleidleisio electronig mewn pleidlais dros streicio, yn ogystal â pharhau i frwydro dros godiadau cyflog rhesymol.

 

Author: 
Neal Kinnersley

Share PCS:

Visit PCS social sites:

FacebookTwitterYouTubeFlickrRSS