Windrush

Cafodd cyflwyniad Hilary Brown, cyfreithiwr Virgo Consultancy Services, effaith fawr ar y rheini oedd yn bresennol yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol PCS Cymru. Ynddo roedd Hilary yn sôn am y caledi a'r anawsterau roedd llawer o bobl sydd wedi bod yn byw yn y wlad hon ers degawdau wedi'i ddioddef. Roedd y rhain yn cynnwys cam-garcharu, colli eu swyddi neu eu cartrefi, cael eu hamddifadu o fudd-daliadau neu ofal meddygol, aflonyddu a bygwth eu hallgludo.
        
Defnyddir “cenhedlaeth Windrush” i ddisgrifio'r nifer fawr o bobl a gafodd eu hannog i ddod i'r wlad hon o'r Gymanwlad i helpu gyda’r prinder affwysol o weithwyr yn y DU yn sgil yr ail ryfel byd. Ers hynny, mae'r gweithwyr hynny wedi aros yn y wlad hon, gan dalu eu trethi, cyfrannu at yr economi a magu eu plant, eu hwyrion a’u hwyresau yma. Hefyd, mae llawer o blant cenhedlaeth gyntaf ac ail genhedlaeth – o gwmpas 50 oed – nad yw eu tystysgrifau geni yn rhoi'r hawl iddynt gael pasbort y DU, ac mae'r sgandal hon wedi effeithio arnynt hwythau hefyd. 
     
Efallai bod rhai ohonoch yn ymwybodol y cyflwynwyd ymagwedd newydd tuag at fewnfudwyr o 2010 ymlaen, o dan arweiniad yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, Theresa May, sef mai'r nod oedd creu amgylchedd gwirioneddol anghyfeillgar i fewnfudwyr anghyfreithlon yma ym Mhrydain. Efallai eich bod yn cofio'r faniau “Ewch Adref” ar y pryd ond efallai nad ydych yn ymwybodol bod y BBC, rhwng 2011 a 2017, wedi dweud bod y Swyddfa Gartref wedi gwneud elw o dros £800m o wasanaethau cenedligrwydd. Mae'r bwriad i dargedu mewnfudwyr anghyfreithlon wedi ymledu i gynnwys pob mewnfudwr, a thrigolion cyfreithlon hyd yn oed.

Efallai eich bod hefyd wedi gweld yn y newyddion (BBC, 4 Mai 2018) fod y Swyddfa Gartref am gyfnod wedi bygwth gyrru Stanford Robinson o Lanisien, oedd yn 84 oed, o'r wlad.  Roedd Stanford wedi bod yn byw yn y DU ers 63 o flynyddoedd ac wedi magu chwech o blant yn y cyfnod hwnnw. Un o'r rhain yw Steve Robinson, cyn bencampwr paffio pwysau plu'r byd.   
 
Erbyn hyn, mae cael hawl preswylio yn gallu costio miloedd. Arferai gostio £40. Yn y cyfamser, o dan y cynllun ffioedd graddedig, ni chaiff cyfreithwyr ond hawlio £400 fesul achos.  Ddeuddeng mlynedd yn ôl, gallai hyn fod gymaint â £2000. Mae mathau eraill o bwysau cyfreithiol yn cynnwys barnwyr Uchel Lys yn gwrthod gwaharddebau rhag gyrru rhywun o'r wlad, a chyfreithwyr yn cael eu diarddel ar sail pwynt technegol am gefnogi'r rheini roedd hyn yn effeithio arnynt. 
     
Os ydych chi'n ymwybodol o unrhyw un y mae hyn yn effeithio arno, dylech ei annog i geisio cyngor cyfreithiol. Gall cyfreithiwr ei helpu i herio unrhyw gyfyngiadau annheg a roddir arno, cael trwydded breswylio fiometrig neu basbort y DU, neu geisio iawndal. Mae arwyddion bod camau ar waith i ddatrys y sgandal arbennig hon, ond yr argoel yw na fydd yr ymagwedd ehangach tuag at fewnfudo ond yn creu sgandalau eraill tebyg.

Author: 
Neal Kinnersley

Share PCS:

Visit PCS social sites:

FacebookTwitterYouTubeFlickr