Our vision and goals

We are committed to building the union, by growing our membership across the civil service and related areas and increasing the participation of our members.

PCS is here to represent you, our members, individually and collectively. To advance and protect your interests wherever you work across the civil service and related areas. We are your first line of defence in the workplace.

 PCS is a democratic union which regularly consults with you, our members, and your representatives, to ensure that the union prioritises your needs, concerns and aspirations, and campaigns on issues that you decide are important.

We want a voice in every workplace, so we can negotiate with employers from a position of strength and with the full support of members.

We are committed to building the strength of our union, by growing our membership and increasing the participation of our members.

We are also committed to increasing workplace organisation and density, and increasing the diversity of our reps in our democratic structures at every level. Every member has a part to play and we encourage you to get involved within PCS.

Our industrial objectives and campaign aims are to:

  • Win the best possible deals for members on pay, terms and conditions
  • Gain much-needed, long-term investment in public services
  • Work to improve the pay and working lives of our members.

We are committed to fighting for justice and equality, both in the UK and internationally.

We actively oppose all forms of prejudice, harassment and oppression on any grounds, and work closely with other trade unions, campaign groups and non-governmental organisations to make positive changes to the world we live in.

We continually review our structures and ways of working, in order to learn from digital insights and ensure that PCS is in the best shape to deal with the challenges we face.

 We are accessible and inclusive and fully support all our members and reps.

Rydym wedi ymrwymo i adeiladu’r undeb, drwy dyfu ein haelodaeth ar draws y gwasanaeth sifil a meysydd cysylltiedig, a chynyddu cyfranogiad ein haelodau.

Mae PCS yma i'ch cynrychioli chi, ein haelodau, yn unigol ac ar y cyd. I hyrwyddo a diogelu eich buddiannau ble bynnag yr ydych yn gweithio ar draws y gwasanaeth sifil a meysydd cysylltiedig. Ni yw eich llinell amddiffyn gyntaf yn y gweithle.

Undeb democrataidd yw PCS sy’n ymgynghori’n rheolaidd â chi, ein haelodau, a’ch cynrychiolwyr, i sicrhau bod yr undeb yn blaenoriaethu eich anghenion, eich pryderon a’ch dyheadau, ac yn ymgyrchu ar faterion yr ydych yn penderfynu eu bod yn bwysig.

Rydym eisiau sicrhau llais ym mhob gweithle, fel y gallwn drafod gyda chyflogwyr o safle cryf a gyda chefnogaeth lawn yr aelodau.

Rydym wedi ymrwymo i adeiladu cryfder ein hundeb, trwy dyfu ein haelodaeth a chynyddu cyfranogiad ein haelodau.

Rydym hefyd wedi ymrwymo i gynyddu trefniadaeth a dwysedd y gweithle a chynyddu amrywiaeth ein cynrychiolwyr yn ein strwythurau democrataidd ar bob lefel. Mae gan bob aelod ran i'w chwarae, ac rydym yn eich annog i gymryd rhan o fewn PCS.

Ein hamcanion diwydiannol a nodau ein hymgyrch yw:

  • Sicrhau’r cytundebau gorau posibl i aelodau o ran cyflogau, telerau ac amodau.
  • Sicrhau buddsoddiadau angenrheidiol a hirdymor mewn gwasanaethau cyhoeddus.
  • Gweithio i wella cyflogau a bywydau gwaith ein haelodau.

Rydym wedi ymrwymo i frwydro dros gyfiawnder a chydraddoldeb, yn y DU ac yn rhyngwladol.

Rydym yn gwrthwynebu pob math o ragfarn, aflonyddu a gormes ar unrhyw sail, ac yn gweithio’n agos gydag undebau llafur eraill, grwpiau ymgyrchu a sefydliadau anllywodraethol i wneud newidiadau cadarnhaol i’r byd yr ydym yn byw ynddo.

Rydym yn adolygu ein strwythurau a’n ffyrdd o weithio yn barhaus, er mwyn dysgu o fewnwelediadau digidol a sicrhau bod PCS yn y cyflwr gorau posib i ymdrin â’r heriau rydym ni’n eu hwynebu.

Rydym ni’n hygyrch, yn gynhwysol ac yn cefnogi ein holl aelodau a chynrychiolwyr yn llawn.